Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

Dyddiad:         9 Tachwedd 2017

Amser:             10:00-11:00

Teitl:                 Papur tystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft 2018-19 – i’w gyflwyno i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg


 

1.0         Cyflwyniad

 

Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gynigion portffolio’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a amlinellwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2018-19. Cyhoeddwyd y Gyllideb Ddrafft fel rhan o broses dau gam, cyllideb amlinellol (cam 1) ar 3 Hydref ac yna cyllideb fanwl (cam 2) ar 24 Hydref. Mae hefyd yn rhoi diweddariad ar feysydd penodol sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

 

2.0         Crynodeb o newidiadau i’r gyllideb

 

Mae Cyllideb Ddrafft 2018-19 yn darparu cynllun dwy flynedd ar gyfer buddsoddiad refeniw a chynllun tair blynedd ar gyfer buddsoddiad cyfalaf. Mae’r tablau isod yn rhoi trosolwg o’r cyllidebau refeniw a chyfalaf arfaethedig sy’n gysylltiedig â phortffolio’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:

 

TABL 1: TROSOLWG O’R GYLLIDEB REFENIW

 

Cam Gweithredu

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 £’000

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2018-19 £’000


Newid
    

£’000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19 £’000


Newid


£’000

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20

Refeniw

 

 

 

 

 

 

Sectorau: Gwyddorau  Bywyd

2,896

2,896

(696)

2,200

-

2,200

Gwyddoniaeth ac Arloesedd

10,514

10,514

(8,882)

1,632

(887)

745

Sgiliau

176,175

175,675

(7,599)

168,076

(7,596)

160,480

Seilwaith TGCh

8,517

9,017

(1,536)

7,481

500

7,981

Is-gyfanswm

198,102

198,102

(18,713)

179,389

(7,983)

171,406

Dim arian parod

 

 

 

 

 

 

Seilwaith TGCh

1,309

1,309

-

1,309

-

1,309

CYFANSWM

199,411

199,411

(18,713)

180,698

(7,983)

172,715

 

 

 

TABL 2: TROSOLWG O’R GYLLIDEB GYFALAF

Cam Gweithredu

 

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 £’000

Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft 2018-19

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Sectorau: Gwyddorau Bywyd

 


9,711

 

 

 

2,090

 


798


801


3,689

Gwyddoniaeth ac Arloesedd

 

12,610

 

 

8,372

 

8,720

8,940

26,032

Seilwaith

20,550

12,500

1,500

19,500

33,500

CYFANSWM

42,871

22,962

11,018

29,241

63,221

 

Cyllideb Derfynol 2017-18

42,871

11,706

3,562

20,562

35,830

 

 

 

 

 

 

Newid mewn Cynlluniau Newydd (Nodyn 1)

-

11,256

7,456

8,679

27,391

 

            Nodyn 1 – mae’r newidiadau yn y cynlluniau newydd wedi’u hegluro ym mharagraff 4

 

Yn ogystal, mae yna gyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol o £12 miliwn yn 2018-19 a 2019-20 sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau pensiwn Gyrfa Cymru.

 

3.0         Newidiadau  Refeniw

 

Mae ein cynigion refeniw’n adlewyrchu’r setliad heriol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru a’r angen i ail-flaenoriaethu cyllidebau a sicrhau arbedion lle bo’n bosibl.

 

O gymharu â’r llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2018-19 a 2019-20, mae cyfanswm Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) adnoddau wedi gostwng £26.696 miliwn. I grynhoi, mae’r symudiadau ar gyfer 2018-19 a 2019-20 fel a ganlyn:

 

Disgrifiad o Symudiad

2018-19

£’000

2019-20

£’000

Cyfanswm

£’000

Ailalinio prosiectau yn unol â gofynion cyflawni

·         Gwyddorau Bywyd

·         Arloesedd

 

 

(696)

(1,111)

 

 

-

-

 

 

 

(696)

(1,111)

Ailddosbarthu gwariant ymchwil a datblygu o Refeniw i Cyfalaf – i gydymffurfio â chanllawiau Trysorlys EM

 

(7,771)

 

(887)

 

(8,658)

Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus – addasiadau ad-dalu Buddsoddi i Arbed

(500)

500

-

Dysgu Seiliedig ar Waith – adlewyrchu gostyngiad yn hawliau incwm yr UE

(7,599)

(7,596)

(15,195)

Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus – arbedion cynnal a chadw ar ôl uwchraddio’r rhwydwaith

(1,036)

-

(1,036)

Cyfanswm Symudiadau

(18,713)

(7,983)

(26,696)

 

 

4.0         Newidiadau Cyfalaf

 

Cyhoeddwyd cynlluniau cyfalaf pedair blynedd yng Nghyllideb Derfynol 2017-18, gan ddarparu mwy o dryloywder a sicrwydd i’n rhanddeiliaid allweddol a’n partneriaid cyflawni. Yn y papur hwn felly rydym yn trafod newidiadau a gyflwynwyd i’r cynlluniau cyfalaf pedair blynedd ers cyhoeddi’r gyllideb ddiwethaf. Ni chyflwynwyd unrhyw newidiadau i gyllidebau rhwng Cyllideb Derfynol 2017-18 a Chyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 (a ddangosir er gwybodaeth yn unig).

Mae’r gyllideb gyfalaf yn parhau i fod yn heriol a bu’n rhaid blaenoriaethu prosiectau yn unol â’n hymrwymiadau i gyflawni Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb.

 

Mae’r gyllideb cyfalaf wedi cynyddu £27.391 miliwn dros y tair blynedd. Mae’r tabl isod yn crynhoi’r symudiadau rhwng y cynllun fel y’i cyhoeddwyd yn 2017-18 a’r gyllideb hon:

 

Disgrifiad o Symudiad

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Ailalinio prosiectau Gwyddorau Bywyd yn unol â gofynion cyflawni

 

 

(1,515)

 

(1,202)

 

 

(199)

 

(2,916)

Ailddosbarthu gwariant ymchwil a datblygu o Refeniw i Cyfalaf – i gydymffurfio â chanllawiau Trysorlys EM

 

7,771

 

8,658

 

8,878

 

25,307

Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus –uwchraddio’r rhwydwaith

5,000

-

-

5,000

Cyfanswm Newidiadau mewn Cynlluniau Newydd

11,256

7,456

8,679

27,391

 

Cyhoeddwyd y cynlluniau cyllideb lefel manwl ar gyfer Prif Grŵp Gwariant yr Economi a’r Seilwaith ar 24 Hydref. Er mwyn bod yn dryloyw mae manylion y newidiadau i Linellau Gwariant yn y Gyllideb (BEL) y portffolio wedi’u cynnwys yn Atodiad A.

 

 

5.0         Blaenoriaethau

 

Cyflwynais fy mlaenoriaethau a’r dystiolaeth lafar yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar 27 Medi. Mae’r papur yn egluro sut mae fy mhortffolio’n cyd-fynd â Ffyniant i Bawb: y Strategaeth i Gymru a sut y bydd yn cyflawni yn erbyn ei phrif themâu ac mae ar gael yn:

 

http://senedd.assembly.wales/documents/s66061/EIS5-21-17p1%20Minister%20for%20Skills%20and%20Science.pdf

 

 

6.0         Crynodeb ar lefel gweithredu

 

Mae Cyllideb Ddrafft 2018-19 yn cael ei chyhoeddi ar lefel Gweithredu a BEL. Fel y nodwyd ym mharagraff 2 mae’r crynodeb yn adlewyrchu newidiadau o’r llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer refeniw yn 2018-19 a’r newidiadau dilynol yn 2019-20. Yng Nghyllideb Derfynol 2017-18 cyhoeddwyd y cynlluniau cyfalaf am bedair blynedd. Felly, mae’r newidiadau yn y cynlluniau’n cael eu cymharu â’r cynlluniau gwreiddiol yn y blynyddoedd ariannol.

 

6.1         Camau Gweithredu Sectorau

 

Refeniw

BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 £’000

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2018-19 £’000

Newidiadau 2018-19 £’000

Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newidiadau 2019-20 £’000

Cyllideb Ddrafft 2019-20 £’000

Gwyddor-au Bywyd

2,896

2,896

(696)

2,200

0

2,200

Cyfan-swm

2,896

2,896

(696)

2,200

0

2,200

 

Cyfalaf

BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

£’000

Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft 2018-19

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Gwyddorau Bywyd

9,711

2,090

798

801

3,689

Cyfanswm

9,711

2,090

798

801

3,689

 

 

Sector Gwyddorau Bywyd – Trosolwg o Bolisi a Strategaeth

 

Mae’r esboniadau ar gyfer y symudiadau yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf wedi’u crynhoi ym mharagraffau 3 a 4.

 

Bydd y cyllid cyfalaf o £3.689 miliwn dros y tair blynedd yn cefnogi’r ymrwymiadau ar gyfer buddsoddiadau seilwaith strategol, gan greu amgylchedd i gwmnïau meddygaeth aildyfu sy’n datblygu i ffynnu. Byddwn yn adeiladu ar y buddsoddiadau seilwaith strategol yr ymrwymwyd iddynt eisoes ar gyfer y cyfleuster Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch, a’r Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau sydd wedi’u cynnwys yn narpariaeth cyllideb  2017-18 o £9.711 miliwn. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â datblygiadau eraill fel ARCH (Gorllewin Cymru a’r Hyb Arloesedd Clinigol (De Cymru) i gynyddu eu heffaith economaidd.

 

Mae’r sector Gwyddorau Bywyd yn rhan o Weithredu ehangach y Sectorau lle mae cyllidebau wedi’u hailflaenoriaethu a’u cysoni i gefnogi’r broses o ddatblygu capasiti a buddsoddiad wedi’i dargedu i wneud y defnydd gorau o’r cyllidebau sydd ar gael.

 

Yn y tymor byr, byddwn yn parhau i ddarparu cymorth refeniw a chyfleoedd datblygu i’r ecosystem Gwyddorau Bywyd yng Nghymru. Mae pwrpas yr Hyb Gwyddorau Bywyd yn cael ei newid i ddatblygu cyfleoedd i greu gwerth o ymgysylltu rhwng y GIG a Diwydiant, yn cynnwys canlyniadau iechyd a llesiant gwell i bobl, gwell effeithlonrwydd a gwerth i wasanaethau iechyd a gofal a chefnogi twf busnes, buddsoddiad a swyddi. Mae hyn yn adlewyrchu ein bwriad i gefnogi prosiectau cydweithio sy’n rhan hanfodol o’r gwaith o gyflawni Ffyniant i Bawb.

 

Yn y tymor canolig, byddwn yn hwyluso treialon a chysylltiadau ag arddangoswyr ac yn helpu gyda’r llwybr i gyfleoedd marchnad ar gyfer busnesau Gwyddorau Bywyd yn GIG Cymru ac mewn is-sectorau strategol allweddol.

 

Yn y tymor hir, byddwn yn parhau i godi proffil y sector yn rhyngwladol drwy greu brand rhyngwladol sy’n dangos ei natur lwyddiannus arloesol ac sy’n denu twf a swyddi i Gymru.

 

 

6.2         Camau Gweithredu Gwyddoniaeth ac Arloesedd

 

Refeniw

Gweithredu Arloesedd

BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 £’000

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2018-19 £’000

Newidiadau 2018-19 £’000

Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newidiadau 2019-20 £’000

Cyllideb Ddrafft 2019-20 £’000

Arloesedd Busnes

 

1,520

1,520

(1,520)

0

0

0

Canolfannau Arloesedd a Chyfleuster-au Ymchwil a Datblygu

Y Byd Academaidd a Chydweithio rhwng Busnesau

 

4,199

4,199

(3,340)

859

(255)

604

Is-gyfanswm

5,719

5,719

(4,860)

859

(255)

604

Gweithredu Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth

4,795

4,795

(4,022)

733

(632)

141

Cyfanswm

10,514

10,514

(8,882)

1,632

(887)

745

 

Cyfalaf

BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 £’000

Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft 2018-19

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Gweithredu: Arloesedd

Cydweithio rhwng y Byd Academaidd a   Busnes

11,739

3,811

4,066

4,066

11,943

Is-gyfanswm

11,739

3,811

4,066

4,066

11,943

Gweithredu: Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth

871

4,561

4,654

4,874

14,089

Is-gyfanswm

871

4,561

4,654

4,874

14,089

CYFANSWM

12,610

8,372

8,720

8,940

26,032

 

Mae’r esboniadau ar gyfer y symudiadau yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf wedi’u crynhoi ym mharagraffau 3 a 4.

 

Mae cyfanswm ein cyllideb Arloesedd o £13.406 miliwn (cyllid refeniw o £1.463 miliwn dros ddwy flynedd a chyllid cyfalaf o £11.943 miliwn dros dair blynedd) yn parhau ein cymorth ar gyfer rhaglenni arloesedd yr UE, SMART Cymru a SMART Expertise. Mae’r rhaglenni hyn yn annog busnesau i fuddsoddi mewn arloesedd a datblygu cysylltiadau gyda’r byd academaidd ac arloesedd busnes gyda’r nod o wella gallu cwmnïau i gystadlu i gefnogi twf economaidd cynaliadwy.

 

Yn 2018-19 ceir gostyngiad mewn refeniw o £4.860 miliwn o gymharu â llinell sylfaen ddiwygiedig 2018-19. Ceir gostyngiad pellach o £0.255 miliwn yn 2019-20. Mae ailddosbarthu gwariant ymchwil a datblygu o refeniw i gyfalaf i gydymffurfio â chanllawiau’r Trysorlys wedi arwain at addasiad o £3.749 miliwn rhwng y cynlluniau refeniw a chyfalaf. Yn ogystal, ail-gysonwyd gweithgarwch gyda chyflawniad , gan ryddhau £1.111 miliwn i gyflawni blaenoriaethau Entrepreneuriaeth.

Yn 2017-18, mae’r gyllideb gyfalaf o £11.739 miliwn yn adlewyrchu’r proffil a fwriedir ar gyfer ein buddsoddiad mewn canolfan arloesedd allweddol fel y Ganolfan Lled-ddargludyddion yr ydym wedi buddsoddi ynddi gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae ymyriadau pellach yn y maes hwn yn cael eu datblygu gyda phartneriaid cyflawni ond heb gyrraedd y cam buddsoddi eto.

 

Mae cyfanswm y gyllideb Wyddoniaeth o £14.963 miliwn (refeniw o £0.874 miliwn am ddwy flynedd a chyllid cyfalaf o £14.089 miliwn dros dair blynedd) yn cefnogi mentrau i gyflawni strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru: Sêr Cymru, Sêr Cymru 2 (sy’n cael eu cyd-ariannu gyda chyllid allanol) a’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.

Ceir gostyngiad o £4.022 miliwn yn y gyllideb refeniw yn 2018-19 a £0.632 miliwn arall yn 2019-20 yn sgil ailddosbarthu gwariant ymchwil a datblygu.

Yn gyffredinol, mae ein buddsoddiad mewn gweithgareddau gwyddoniaeth yn cymharu â 2017-18 er bod y rhaniad rhwng cyllidebau cyfalaf a refeniw wedi newid i adlewyrchu arferion cyfrifyddu newydd.

 

 

6.3         Cyflawni Camau Gweithredu Seilwaith TGCh

 

 

Refeniw

BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 £’000

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2018-19 £’000

Newidiadau 2018-19 £’000

Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newidiadau 2019-20 £’000

Cyllideb Ddrafft 2019-20 £’000

 

Cynhwysi-ant Digidol

1,250

1,250

0

1,250

0

1,250

 

Cydgasglu Band Eang Sector Cyhoeddus

5,240

5,740

(1,536)

4,204

500

4,704

 

Gweithredi-adau Seilwaith TGCh

2,027

2,027

0

2,027

0

2,027

 

Is-gyfanswm

8,517

9,017

(1,536)

7,481

500

7,981

 

Dim arian parod

 

Gweithredi-adau Seilwaith TGCh

1,309

1,309

0

1,309

0

1,309

 

Is-gyfanswm

1,309

1,309

0

1,309

0

1,309

 

CYFANSWM

9,826

10,326

(1,536)

8,790

500

9,290

 

 

 

 

 

Cyfalaf

BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf

2017-18 £’000

Dyraniadau Cyllideb Drafft 2018-19

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Gweithrediad-au Seilwaith TGCh

20,550

7,500

1,500

19,500

28,500

Cyfanswm

20,550

7,500

1,500

19,500

28,500

 

Mae cyllideb y Seilwaith TGCh yn parhau i adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu band eang cyflym ac effeithiol i holl gartrefi ac adeiladau Cymru er gwaethaf setliad heriol y gyllideb. Mae darparu sgiliau digidol a band eang cyflym, dibynadwy gyda signal ffonau symudol ar draws Cymru’n cefnogi ein hymrwymiadau yn Ffyniant i Bawb.

 

Mae’r esboniadau ar gyfer y symudiadau yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf wedi’u crynhoi ym mharagraffau 3 a 4.

 

Mae’r gwariant cyfalaf proffil ar gyfer Cyflymu Cymru dros y pedair blynedd yn adlewyrchu cwblhad arfaethedig y prosiect cyfredol yn 2017-18 a dechrau’r rhaglen ddilynol yn 2018-19. Mae gofyniad y gyllideb graidd yn uwch yn y flwyddyn olaf a chafodd cyllid Ewropeaidd a chyllid cyfatebol ei ostwng yn y camau cyflawni cynnar. O 2018-19 mae gofyniad y gyllideb graidd ar gyfer Cyflymu Cymru II yn cael ei reoli yn unol â chyllid cyfatebol Ewropeaidd sy’n cael ei reoli yn unol â’r gofynion cyflawni.

 

Yn 2018-19, mae dyraniad cyfalaf ychwanegol o £5 miliwn yn cefnogi’r gwaith o uwchraddio rhwydwaith Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus sydd wedi’i gynnwys mewn llinellau sylfaen ar gyfer costau cynnal a chadw refeniw yn y dyfodol.

 

BEL Cynhwysiant Digidol

 

Mae Cymunedau Digidol Cymru’n hyfforddi a chefnogi sefydliadau i gael pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i ddefnyddio technolegau, yn helpu i ymgorffori cynhwysiant digidol yn y sefydliad ac yn annog recriwtio gweithwyr i weithredu fel hyrwyddwyr digidol. Mae’n gweithio’n agos gyda sefydliadau partner, yn cynnwys llyfrgelloedd, i sicrhau mynediad am ddim i’r rhyngrwyd a chymorth i’w ddefnyddio i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Ar ôl gwerthusiad annibynnol, cafodd Cymunedau Digidol Cymru ei ymestyn tan 31 Mawrth 2019 a’i gynnal ar y lefelau cyfredol.

 

BEL Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

 

Mae’r gyllideb hon yn cefnogi’r contract a ddyfarnwyd i BT ym mis Hydref 2014 am o leiaf saith mlynedd, sy’n darparu dull o gyd-brynu gwasanaethau rhwydweithio ardal eang i’r sector cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae’n cefnogi dros 110 o sefydliadau sy’n darparu dros 4,500 o wasanaethau safle. Yn 2018-19, mae gostyngiad yn y gyllideb refeniw yn sgil ad-daliad o £0.5 miliwn o gyllid Buddsoddi i Arbed blaenorol a thua £1 miliwn o arbedion cynnal a chadw a ragwelir o fuddsoddiad cyfalaf o £5 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith. Felly nid yw’r newidiadau’n cael unrhyw effaith ar ddarpariaeth.

   

BEL Gweithrediadau Seilwaith TGCh

 

Y pedair prif raglen weithgarwch yw:

 

·         Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn (refeniw) – dyfarnwyd contractau a grantiau i wahanol ddarparwyr i helpu busnesau i gael mantais fasnachol o seilwaith band eang cyflym iawn a chreu difidend economaidd i Gymru. Prosiect pum mlynedd yw hwn a ddechreuodd ddiwedd 2015. Mae’r prosiect yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a’r UE.

 

·         Cyflymu Cymru (cyfalaf)– dyfarnwyd contract i BT i ddatblygu seilwaith band eang cyflym iawn ledled Cymru sy’n gallu darparu 30mbps neu fwy. Mae’r prosiect yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, y DU a BDUK a bydd yn cael ei gwblhau yn 2017-18.

 

·         Bydd cam ychwanegol o Cyflymu Cymru’n cael ei weithredu yn 2018-19 ac yn adeiladu ar y seilwaith a grëwyd yn y cam cyntaf i ddarparu opsiynau ar gyfer cyrraedd yr adeiladau na chawsant eu cynnwys yn y cam cyntaf. Bydd y prosiect yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a’r UE. 

 

·         Allwedd Band Eang Cymru a’r Cynllun Taleb Gwibgyswllt (cyfalaf) Cynlluniau mewn ymateb i alw sy’n darparu cymorth grant i fanteisio ar atebion band eang eraill sy’n gallu darparu cyflymder lawrlwytho cyflym iawn i adeiladau preswyl a busnes.

 

7.0      Camau Gweithredu Sgiliau

 

 

Cam Gweithredu

BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf £’000

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig £’000

Newidiadau 2018-19 £’000

Cyllideb Ddrafft 2018-19 £’000

Newidiadau 2019-20 £’000

Cyllideb Ddrafft 2019-20 £’000

 

Dysgu Seiliedig ar Waith

Dysgu Seiliedig ar Waith

126,808

126,308

(7,599)

118,709

(7,596)

111,113

 

Sgiliau Cymorth Cyflawni

Marchnata a Sgiliau

648

648

0

648

0

648

 

Polisi Sgiliau

Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu

1,061

1,061

0

1,061

0

1,061

 

Cyflogaeth a Sgiliau

Cyflogadwy-edd a Sgiliau

28,858

28,858

0

28,858

0

28,858

 

Dewis Addysgol a Gyrfa

Gyrfa Cymru

18,800

18,800

0

18,800

 

18,800

 

Cyfanswm

 

176,175

175,675

(7,599)

168,076

(7,596)

160,480

 

Mae’r esboniadau ar gyfer y symudiadau yn y cyllidebau refeniw a chyfalaf wedi’u crynhoi ym mharagraffau 3 a 4.

 

BEL Dysgu Seiliedig ar Waith

 

Nid yw’r llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2018-19 yn cynnwys cyllid afreolaidd o £0.500m am ddyraniad blwyddyn i gefnogi Heddluoedd yng Nghymru.

 

Rydym yn cydnabod rôl ehangach sgiliau a dysgu gydol oes ym maes datblygu economaidd ac wedi cynnal lefelau cyllid a hwyluswyd drwy wneud y gorau o arian Ewropeaidd. Er bod y gyllideb net o £118.7 miliwn yn 2018-19 a £111 miliwn yn 2019-20 i gefnogi Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau adlewyrchu gostyngiadau, mae mwy o gyllid Ewropeaidd o’r un gwerth yn gwneud iawn am hyn. Mae cyllid Ewropeaidd yn cael ei reoli ar sail gofynion Llywodraeth Cymru dros oes y prosiectau gyda chymorth gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, i sicrhau ei fod yn cefnogi ymrwymiadau Symud Cymru Ymlaen yn effeithiol.

 

Mae’r BEL yn cefnogi’r gweithgareddau canlynol:

 

·         Darparu prentisiaethau pob oed (yn cynnwys fframwaith datblygu) (tua £110 miliwn)

 

·         Darparu’r rhaglen Hyfforddeiaeth (tua £35 miliwn)

 

·         Cymorth ar gyfer recriwtio prentisiaid 16-18 oed (tua £2 miliwn)

 

·         Y rhaglen Sgiliau ysbrydoledig a chynlluniau peilot sydd â’r nod o gynyddu cyfranogiad mewn prentisiaethau e.e. “Rhoi Cynnig Arni”(tua £2 miliwn)

 

·         Costau staff a marchnata sy’n gysylltiedig â phrosiectau a gyllidir gan arian Ewropeaidd (tua £2 miliwn)

 

·         Incwm a ragwelir o £25 miliwn o dderbyniadau Cronfa Gymdeithasol Ewrop, ond gallai hyn amrywio bob blwyddyn oherwydd lefelau gweithgarwch. 

 

Mae’r gyllideb yn cefnogi mentrau i annog cyflogwyr i recriwtio dysgwyr ifanc, yn enwedig ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn. Mae cymorth ar gyfer prentisiaid ifanc yn faes blaenoriaeth. Mae hefyd yn cefnogi’r rhaglen Hyfforddeiaeth ar gyfer pobl ifanc NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) neu sydd mewn perygl o fod felly.

 

Prentisiaethau Iau; yn enwedig rhai i bobl ifanc 16-19 oed

 

Nid yw Prentisiaethau Iau wedi’u cynnwys yn BEL Dysgu Seiliedig ar Waith ond maent yn cael eu cefnogi ym Mhrif Grŵp Gwariant Addysg.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n monitro canlyniadau ar gyfer y rhaglenni Hyfforddeiaeth a Phrentisiaeth. Caiff canlyniadau eu mesur mewn perthynas â chyfraddau cwblhau’r fframwaith yn achos Prentisiaethau a chyfraddau cynnydd (o ran symud i swydd neu ddysgu uwch) yn achos Hyfforddeiaethau. Gellir terfynu contractau pan fydd y canlyniadau’n annerbyniol.

 

Mae’r wybodaeth a geir yn y canlyniadau yn deillio o ddata cynhwysfawr am ddysgwyr a gyflwynir i Lywodraeth Cymru gan bob darparwr sydd â chontract.

 

BEL Marchnata a Sgiliau

 

Mae’r gyllideb hon yn marchnata gweithgarwch i hyrwyddo’r rhaglenni prentisiaeth a hyfforddeiaeth a chefnogi digwyddiadau gwobrwyo sgiliau.

 

BEL Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu

 

Mae’r agenda Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu’n cynnwys: arwain ar gadw’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol fel sail i’n systemau addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan ystyried agenda sgiliau’r DU; cefnogi sicrhau ansawdd, lledaenu, dadansoddi a chaffael tystiolaeth i gefnogi sgiliau, cyflogaeth a datblygu dysgu drwy Wybodaeth Farchnad Lafur gadarn, gan weithio’n agos â’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol; a gweithredu fel yr arweinydd sgiliau wrth ymgysylltu â chyflogwyr. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n agos gyda Thimau Sector a Busnes ehangach ac arwain ar y Rhaglen Sgiliau Hyblyg i ddiwallu anghenion sgiliau cyflogwyr strategol pan nad yw’n bosibl diwallu’r rhain gan ddarpariaeth brif ffrwd.


Mae’r gyllideb hon yn cefnogi’r canlynol:

 

·         Ffurfio a chyfathrebu polisi sgiliau Llywodraeth Cymru gan ystyried y cyd-destun polisi ehangach ar draws y DU;

 

·         Sefydlu agenda cyflawni sgiliau rhanbarthol cryf dan arweiniad cyflogwyr gyda chefnogaeth Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol;

 

·         Ymgysylltu â chyflogwyr allweddol a’u cefnogi drwy drefniadau rheoli perthynas strategol i ddiwallu anghenion sgiliau drwy brosiectau dan arweiniad cyflogwyr.

 

Mae cyllidebau sy’n gysylltiedig â pholisi sgiliau yn cefnogi amrywiaeth o waith yn cynnwys:

 

·         Gwybodaeth am y farchnad lafur – y broses sicrhau ansawdd, lledaenu, dadansoddi a chaffael tystiolaeth i gefnogi sgiliau, cyflogaeth a datblygu dysgu a sicrhau penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch y farchnad lafur. 

 

·         Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau  Cymru - mae’r Bwrdd yn gwasanaethu fel bwrdd cynghori annibynnol dan arweiniad cyflogwyr i Lywodraeth Cymru ar bob mater sy’n ymwneud â pholisi cyflogaeth a sgiliau ôl-16 i sicrhau bod darpariaeth yn cyd-fynd yn well ag anghenion cyflogwyr ac unigolion ledled Cymru. Mae’r Bwrdd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Cyngor Datblygu Economaidd. Mae’r trefniant gweithio newydd hwn yn rhoi her gadarn i Lywodraeth Cymru a safbwynt strategol gwell ar faterion sgiliau, prentisiaethau, addysg uwch a dysgu gydol oes.

 

·         Ymgyrch Oes o Fuddsoddi – mae’r ymgyrch hon yn canolbwyntio ar annog cyflogwyr i gadw a chyflogi gweithwyr hŷn a chydnabod gwerth gweithwyr hŷn fel rhan o weithlu sawl cenhedlaeth, gan weithio’n agos â swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn. Bydd yr ymgyrch hefyd yn pwysleisio neges cyd-fuddsoddi ac yn hyrwyddo manteision buddsoddi yn sgiliau’r gweithlu i gyflogwyr. 

 

Mae cyllidebau sy’n gysylltiedig â Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn darparu dull ar gyfer sicrhau bod darpariaeth sgiliau yng Nghymru yn cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr, gan eu helpu i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae tair Partneriaeth:

 

·         Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru

 

·         Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru

 

·         Partneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi De Ddwyrain Cymru.

 

Mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi datblygu strategaethau ymgysylltu â chyflogwyr cadarn i bennu anghenion sgiliau’r rhanbarth ac, yn arbennig, yr anghenion sgiliau sy’n gysylltiedig â phrosiectau seilwaith rhanbarthol a sectorau blaenoriaeth. Mae’r gwaith yn amserol, gan fod yn sail i ddatblygu cynigion ar gyfer Bargeinion Dinesig/Twf i Lywodraeth y DU. Mae pob Partneriaeth yn llunio cynllun cyflogaeth a sgiliau blynyddol, gan nodi blaenoriaethau ar gyfer eu rhanbarth yn seiliedig ar angen cyflogwyr. Mae cynlluniau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol yn nodi sectorau economaidd allweddol ac yn darparu sail dystiolaeth gritigol ar gyfer gwneud penderfyniadau am fuddsoddi mewn sgiliau. Cyhoeddwyd y set ddiweddaraf o gynlluniau cyflogaeth a sgiliau ym mis Awst 2017.

 

Mae cyllidebau sy’n gysylltiedig ag Ymgysylltu a Chyflogwyr a sectorau’n darparu’r elfen sgiliau o becynnau cymorth ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau dan arweiniad cyflogwyr sy’n cefnogi creu a/neu ddiogelu swyddi o safon uchel. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys sicrhau perthynas ehangach a dyfnach rhwng cyflogwyr strategol ac ysgolion, AB ac AU; hwyluso a chynyddu nifer y cyflogwyr strategol sy’n manteisio ar raglenni a phrosiectau sgiliau Llywodraeth Cymru fel prentisiaethau, Dosbarth Busnes, y Rhaglen Sgiliau Hyblyg a’r Rhaglen Blaenoriaeth Sgiliau; hwyluso gwaith ymgysylltu y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol gyda chyflogwyr allweddol; darparu gwybodaeth ‘fyw’ gan gyflogwyr; cyfathrebu blaenoriaethau sgiliau a phrif negeseuon Llywodraeth Cymru i fusnes; a’r arweinydd polisi a chyflawni ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg.

 

BEL Cyflogadwyedd a Sgiliau

 

Mae’r BEL hwn yn ariannu’r gwaith o ddatblygu a chyflawni strategaethau, polisïau a rhaglenni sy’n helpu pobl i gael gafael ar waith, dychwelyd i waith, aros mewn gwaith a chamu ymlaen mewn gwaith drwy gymorth sgiliau a hyfforddiant. Mae’n hwyluso ymateb uniongyrchol i helpu twf busnesau unigol drwy ddatblygu’r gweithlu ac yn darparu atebion sector, ehangach dan arweiniad cyflogwyr i ymateb i anghenion sgiliau a nodwyd mewn meysydd blaenoriaeth sy’n bwysig i economi Cymru.

 

Mae rhaglenni Twf Swyddi Cymru a ReAct yn denu cyllid cymdeithasol Ewropeaidd o dan gylch rhaglenni cyfredol 2014-2020. Mae disgwyl i’n cynnig cyflogadwyedd newydd ddechrau ym mis Ebrill 2019. Bydd yn cael ei wneud fel un cynnig o dan yr enw, ‘Cymru’n Gweithio’, ac yn disodli ein cyfres gyfredol o raglenni: ReAct, Twf Swyddi Cymru, y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd a Hyfforddiaethau. Rhwng nawr a mis Ebrill 2019 bydd y rhaglenni hyn yn cael eu had-drefnu i lywio’r dull cyflawni newydd.

 

BEL Gyrfa Cymru

 

Mae cyllid refeniw blynyddol o £18.800 miliwn ar gyfer gweithgarwch Gyrfa Cymru.

 

Yn 2016, gwahoddodd Gweinidogion Cymru Gyrfa Cymru i gyflwyno gweledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau gyrfa Cymru yn y dyfodol. Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid, ym mis Mehefin2016 cyhoeddodd y cwmni ei weledigaeth, Newid Bywydau, sy’n nodi sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddatblygu dros y tair blynedd nesaf. Prif negeseuon Newid Bywydau yw:

 

·         Canolbwyntio ar bobl ifanc ac atal yn hytrach na dull gwella;

·         Defnyddio llawer mwy o dechnoleg i gefnogi darpariaeth;

·         Cymorth gwell i bartneriaid yn cynnwys cyflogwyr ac ysgolion;

·         Cynorthwyo oedolion i ddychwelyd i weithio.

 

Mae Newid Bywydau’n cynnig ailgynllunio gwasanaethau’n sylfaenol, gyda thrawsnewidiad digidol yn sicrhau gwasanaethau wedi’u cyfuno’n llwyr i gleientiaid. Mae Gyrfa Cymru’n buddsoddi mewn platfformau a gwasanaethau digidol, nid er mwyn disodli gwasanaethau wyneb-yn-wyneb ond i sicrhau bod amser cynghorwyr gyrfaoedd yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol mewn gweithgareddau o werth uchel. Ar ôl ymgynghori â phobl ifanc, mae Gyrfa Cymru wedi datblygu dull newydd arloesol o gyflawni. Mae’r byd wedi symud ymlaen o ‘un ateb addas i bawb’ ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y ffordd mae Gyrfa Cymru’n defnyddio dull gwahanol iawn o ddarparu gwasanaeth - defnyddio cyswllt wyneb-yn-wyneb, e-byst, sgyrsiau dros y we, gweminarau, y cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau eraill.

 

Wrth i Gyrfa Cymru weithredu ei weledigaeth newydd, bydd yn gwerthuso a phrofi dulliau newydd gyda chwsmeriaid i sicrhau bod anghenion cleientiaid yn cael eu diwallu wrth ddatblygu a chynllunio gwasanaethau. Mae Gyrfa Cymru’n buddsoddi mewn llwyfannau a gwasanaethau digidol nid er mwyn disodli gwasanaethau wyneb-yn-wyneb ond i sicrhau bod amser cynghorwyr gyrfaoedd yn cael ei ddefnyddio’n ffeithiol mewn gweithgareddau o werth uchel. Ar ôl ymgynghori â phobl ifanc, mae Gyrfa Cymru wedi datblygu dull newydd arloesol o gyflawni. Bydd y Model Darganfod Gyrfa yn mynd i’r afael ag anghenion unigol drwy amrywiaeth o wasanaethau cydgysylltiedig ac ategol wedi’u darparu’n ddigidol ac wyneb-yn-wyneb. Wedi’i ddatblygu ar dair proses ategol, Diagnosis, Darganfod a Chyflawni, mae’r modiwl yn cyfuno arbenigedd proffesiynol gydag arloesedd i ddiwallu anghenion unigolion drwy’r cyfryngau cyflawni mwyaf priodol. Mae hwn yn ddull cyfannol mwy cynhwysfawr sy’n cyfuno cymorth unigol gyda gweithgareddau difyr ac ysbrydoledig.

 

Mae newidiadau yng nghylch gwaith Gyrfa Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at lai o wasanaeth i bobl ifanc mewn ysgolion. Mae’r weledigaeth gyflawni newydd yn ceisio gwneud iawn am hyn gyda’r cynllun busnes y cytunwyd arno ar gyfer 2017-18 yn symud ffocws adnoddau i ganolbwyntio ar gyflawni mewn ysgolion. Mae’r newidiadau sy’n cael eu cyflwyno’n cynnwys pwyslais llawer cryfach ar gymorth i bobl ifanc mewn ysgolion, yn uniongyrchol drwy feithrin capasiti â phartneriaid, a thrwy adnoddau newydd i helpu athrawon i wneud cysylltiadau rhwng darparu’r cwricwlwm a byd gwaith.

 

Mae gwasanaethau i oedolion y tu allan i wasanaethau contract penodol (fel rhai’r Porth Sgiliau Unigol a ReAct) wedi’u lleihau, er bod y cleientiaid hyn yn parhau i allu manteisio ar wasanaethau drwy ganolfannau Gyrfa Cymru, y gwasanaeth ffôn, ac ar-lein. Mae’r llythyr cylch gwaith yn cynnig disgresiwn i gynnig gwasanaethau i oedolion o fewn yr adnoddau sydd ar gael i roi rhywfaint o ddisgresiwn i Gyrfa Cymru o ran y ffordd fwyaf priodol o gefnogi oedolion fel rhan o’r cynnig cyffredinol hwn. Mae’r ffaith nad oes cwynion yn cael eu gwneud yn erbyn sefydliad o’r maint hwn yn nodedig ac i’w briodoli i’r ffordd maent yn gweithio’n hyblyg gydag oedolion.

 

Mae yna dystiolaeth gynyddol ynglŷn ag effaith gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd i bobl ifanc.

 

Cymorth Gyrfa Cymru ar gyfer pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

 

Mae Gyrfa Cymru’n bartner allweddol yn y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Mae staff Gyrfa Cymru’n rhoi arweiniad o ran cefnogi pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio o Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant heb rwystrau helaeth. Mae Gyrfa Cymru’n darparu adroddiadau manwl i Lywodraeth Cymru yn nodi nifer y bobl ifanc sy’n derbyn cymorth, faint o amser mae wedi’i gymryd i’w denu yn ôl i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, a’r symudiad rhwng haenau yn y model 5 Haen. Mae Gyrfa Cymru hefyd yn cynnal arolwg o gyrchfannau ym mis Hydref bob blwyddyn sy’n cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer ystadegau NEET.

 

Mae darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd yn helpu pobl ifanc i symud yn llwyddiannus o addysg a hyfforddiant gorfodol ac ôl-orfodol (neu gyflogaeth), gan eu hatal rhag ymrestru ar gyrsiau amhriodol a lleihau cyfraddau gadael cyrsiau’n gynnar. Bydd canolbwyntio mwy ar ymgysylltu â phobl ifanc pan fyddant yn yr ysgol yn arwain at lai o wrthgilio a llai yn gadael ar ôl 16 oed a llai o bobl NEET.

 

Adolygodd dau brosiect ymchwil ar wahân wasanaethau Gyrfa Cymru i gleientiaid a oedd yn NEET neu mewn perygl o fod yn NEET, a’r cysylltiadau rhwng y gwasanaethau hyn a datblygiad cleientiaid. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod gwaith Gyrfa Cymru’n helpu i leihau nifer a chyfran y bobl ifanc yng Nghymru sydd yn NEET, ac yn helpu i leihau nifer y cleientiaid sydd mewn perygl o adael addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn gynnar.

 

Yn ystod 2017-2018, bydd Gyrfa Cymru’n parhau i gefnogi pobl ifanc yn Haen 3 (hyd at 18 oed) sydd â chymorth gyrfaoedd yn brif ofyniad iddynt, nes eu bod wedi cael canlyniad neu nad ydynt angen eu cymorth mwyach. Bydd Gyrfa Cymru hefyd yn ceisio gwella cysylltiadau gyda sefydliad partner sy’n cynnig cymorth i’r grŵp cleientiaid gyda golwg ar nodi gweithgareddau cymorth priodol i unigolion i ddatblygu eu galluoedd rheoli gyrfa.

 

Yn ystod 2016-17, datblygodd Gyrfa Cymru system o fesurau perfformiad ar gyfer treialu dull o gysoni dangosyddion llwyddiant ar lefel Cwmni ac ar gyfer swyddi penodol. Roedd y system a ddatblygwyd yn canolbwyntio ar gynghorwyr gyrfaoedd sy’n gweithio gyda chleientiaid ym myd addysg ac yn cwmpasu tair agwedd ar fesur perfformiad sydd hefyd yn bodoli ar draws Cwmnïau. Bydd yna dri dull o fesur cynnydd a pherfformiad yn 2017-18. Bydd y rhain yn cynnwys dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt a threialu dull o fesur canlyniadau a amlinellwyd yn y weledigaeth. Yn ogystal, mae Gyrfa Cymru wedi cynnig cyfres o fetrigau cyflawni uchelgeisiol yn ei gynllun busnes a fydd yn cael eu defnyddio i lywio trafodaethau ar berfformiad ac yn darparu rhai llinellau sylfaen ar gyfer perfformiad yn y dyfodol.

 

Mae rhai enghreifftiau o’r metrigau hyn yn cynnwys:

 

·         Bydd pob dysgwr CA4 yn cwblhau Gwiriad Gyrfaoedd

·         Bydd pob dysgwr Blwyddyn 11 ar lwyth achosion Cynghorydd Gyrfaoedd nes eu bod wedi setlo yn eu cyrchfan ôl-16

·         Bydd 70% o ddisgyblion sy’n derbyn gwasanaethau yn CA4 yn derbyn o leiaf 2 ryngweithiad digidol personol

·         Bydd 20% o gleientiaid Haen 3 yn symud ymlaen i Haen 2

·         Bydd 80% o gleientiaid Haen 3 yn symud ymlaen o fewn 90 diwrnod

·         Bydd 10.000 o gyflogwyr wedi mewngofnodi i’r gronfa ddata cyflogwyr erbyn mis Mawrth 2018

·         Cynhelir 214 o ddigwyddiadau Byd Gwaith – o leiaf 1 ym mhob ysgol uwchradd

 

Mae asesu cost-effeithiolrwydd gwasanaethau Gyrfa Cymru sy’n cael eu darparu ar ran Llywodraeth Cymru yn heriol oherwydd:

 

·         Mae gofyn i Gyrfa Cymru gyflawni tasgau a darparu gwasanaethau, gyda’r cynnyrch terfynol y tu allan i’w reolaeth fel arfer;

·         Bod cyfrifoldebau wedi’u lledaenu ar draws y ‘teulu gyrfaoedd’: nid yw cyfrifoldeb am reoli a chostau canlyniadau wedi’i ddyrannu’n glir;

·         Prinder cymaryddion parod ar gyfer meincnodi darpariaeth gwasanaethau.

 

Yng ngoleuni hyn, wrth bennu’r cylch gwaith ar gyfer 2018-19, bydd Llywodraeth Cymru’n ceisio bod yn fwy penodol am ei mewnbynnau a’i buddsoddiad a’r canlyniadau (er enghraifft, gostyngiad penodol mewn NEET), gan alluogi Gyrfa Cymru i benderfynu ar y dull mwyaf priodol o sicrhau llwyddiant, yna adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar y canlyniadau – yn hytrach nag ar y prosesau manwl a ddefnyddiwyd i’w cyflawni.

 

 

8.0         Monitro a Gwerthuso’r Gyllideb

 

8.1         Monitro’r Gyllideb

 

Mae pob maes gwariant yn cael eu herio’n fisol ac mae swyddogion yn cynnal adolygiadau chwarterol manwl i ystyried y rhagolygon diweddaraf ac yn cytuno ar newidiadau i gyllidebau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn derbyn diweddariadau ariannol rheolaidd ar y portffolio i sicrhau bod y gyllideb yn parhau ar y trywydd iawn fel bod canlyniadau gwerth am arian yn cael eu cyflawni a’n bod yn parhau i gyflawni blaenoriaethau’r portffolio.

 

8.2         Gwerthuso

 

Mae’r angen am werthusiad a’i gwmpas yn cael ei ystyried fesul achos yn ystod gwaith datblygu polisi a rhaglenni gan ystyried risg, maint a graddfa, tystiolaeth gyfredol a ffactorau perthnasol. Er enghraifft, rwyf newydd gomisiynu adolygiad o’r rhaglen wyddoniaeth bum mlynedd, Sêr Cymru. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar yr amcanion a’r targedau a gyflawnwyd gan y rhaglen ac yn helpu i lywio ein prif flaenoriaethau am opsiynau ar gyfer dyfodol ymchwil wyddonol a ariennir gan y llywodraeth yng Nghymru gan sicrhau digon o hyblygrwydd i fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol a rhanbarthol, yn dibynnu ar eu hanghenion penodol.

 

Cafodd rhaglen Cyflymu Cymru ei gwerthuso yn 2016 a bu’r wybodaeth yn sail i flaenoriaethau cyflawni ar gyfer Cyflymu Cymru 2:

http://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-next-generation-broadband-wales-programme/?skip=1&lang=cy

           

9.0         Gwariant Ataliol

 

Nod y gyllideb gyfan ar gyfer Sgiliau a Gwyddoniaeth yw cryfhau’r amodau a fydd yn galluogi busnesau i greu swyddi a sicrhau twf economaidd cynaliadwy. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn hanfodol i’n dull o sicrhau bod Cymru’n dod yn gymdeithas fwy llewyrchus, cryfach, iachach, tecach a mwy cyfartal.

 

Mae buddsoddi mewn gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd yn ataliol o ran bod y gwasanaethau hyn yn cefnogi gostyngiad mewn unigolion NEET. Mae darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd yn cynorthwyo pobl ifanc i symud yn llwyddiannus o addysg a hyfforddiant gorfodol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan eu hatal rhag ymrestru ar gyrsiau amhriodol a lleihau cyfraddau’r rhai sy’n gadael yn gynnar.

 

Mae pob rhaglen yn BEL Cyflogadwyedd a Sgiliau yn ceisio gwella sgiliau a chyflogadwyedd unigolion yn y gweithlu a thu allan i’r gweithlu yng Nghymru, gan wella sefyllfa unigolion yn y farchnad lafur. Mae nifer o raglenni/gweithgareddau’n canolbwyntio’n benodol ar godi lefelau sgiliau hanfodol y rhai sydd mewn gwaith ac allan o waith ac ar ymgysylltu ag unigolion sydd â sgiliau isel neu heb sgiliau o gwbl nad ydynt wedi bod yn dysgu ers cryn amser o bosibl.

 

Mae datblygu economi gylchol ym maes arloesedd yn enghraifft o sut rydym yn cydweithio i ymgorffori prosesau i sicrhau effeithiau cadarnhaol yn y tymor hir. Mae’n gysyniad allweddol mewn economi werdd, yn seiliedig ar ddefnyddio  systemau i’r eithaf yn hytrach nag elfennau, i ffwrdd o ‘Adnoddau i Wastraff’ a thuag at systemau cylchol ataliol. Mae cynghreiriau strategol gyda sefydliadau fel yr Ellen MacArthur Foundation, McKinsey Company a mentrau rhyngwladol ar flaen y gad o safbwynt gwaith archwilio a chymhwyso’r economi gylchol. Mae’r tîm SMART a chwmnïau’n asesu prif elfennau fel y gallu i ailgylchu, ailddefnyddio, mwy o ddefnyddioldeb, llai o ddarfodiad, llai o wastraff, a chynllun ar gyfer cynhyrchu a dewis deunyddiau. Bydd hyn yn digwydd law yn llaw â datblygu cynhyrchion, prosesau a chynlluniau newydd ac yn cefnogi’r gwaith o sicrhau Cymru ffyniannus, gref a chyfrifol yn fyd-eang.

 

10.0      Effaith Prydain yn gadael yr UE

 

Defnyddir Cronfa Gymdeithasol Ewrop i gefnogi nifer o brosiectau sy’n ceisio gwella sgiliau a rhagolygon swyddi ledled Cymru drwy roi hyfforddiant a chymorth angenrheidiol i bobl ddi-waith a difreintiedig fel y gallant gael swyddi.

 

Er bod Llywodraeth y DU wedi gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau y cytunwyd arnynt cyn 2020 i raddau helaeth, mae’n hanfodol bod y Grant Bloc yn cael ei ddiwygio i wneud iawn am yr arian a gollir o’r UE yn y tymor hir. Yn ystod ymgyrch y refferendwm, sicrhawyd pleidleiswyr yng Nghymru na fyddai gadael yr UE yn golygu y byddai Cymru ar ei cholled ac mae’n hanfodol bod yr addewid hwn yn cael ei anrhydeddu er mwyn cadw ffydd y cyhoedd. 

 

Mae llawer o waith ar droed ledled Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod ni’n dylanwadu i’r eithaf ar drafodaethau yn y DU, ac mewn trafodaethau ffurfiol ar yr UE, gan sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Gymru. Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau bod buddiannau Cymru’n cael eu clywed a’u diogelu.

 

Yn ogystal, mae ein cyfres o £115 miliwn o gyllid a chymorth SMART i fusnesau a phrifysgolion Cymru’n cael ei ariannu’n gyfan gwbl gan arian yr UE a’r holl arian cyfatebol yn dod o’r sector preifat – felly maent yn darparu gwerth anhygoel am arian i’r bunt Gymreig. Er eu bod yn eu lle cyn Datganiad Hydref 2016 ac felly wedi’u gwarantu gan y Trysorlys nes 2020, nid yw’n glir beth fydd yn cymryd eu lle ar ôl dyddiau’r Cronfeydd Strwythurol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid priodol i Gymru, fel cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru sy’n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae ein busnesau a’n prifysgolion wedi elwa ar gronfeydd ymchwil a datblygu’r UE fel Horizon 2020. Ar ddiwedd Gorffennaf 2017, roedd cyllid Horizon 2020 i Gymru wedi cyrraedd €66 miliwn. 

 

Mae gan ffrydiau cyllido sgil-effaith fanteisiol o ran eu bod yn cysylltu ein busnesau a’n prifysgolion gyda’r byd arloesi ehangach. Mae rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd ar gael eisoes ar sail y DU bod sefydliadu partner Ewropeaidd posibl yn fwy amharod i gydweithio â’u sefydliadau cyfatebol ym Mhrydain ers y refferendwm.

 

Ar lefel y DU, ym mis Tachwedd 2016 cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd o £4.7 biliwn mewn gwariant ymchwil a datblygu dros oes y senedd hon. Bydd y rhan fwyaf ohono’n cael ei ddarparu ar sail gystadleuol gan y Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol newydd. 

 

Nid yw wedi’i addasu gan fformiwla Barnett ac mae’n bosibl y bydd Cymru’n derbyn cyfran gyfrannol. Mae hwn yn gyfle i Gymru yn ogystal â bod yn fygythiad. Mae heriau byd-eang - poblogaeth sy’n heneiddio; newid yn yr hinsawdd; y byd digidol - yn cyflwyno heriau a chyfleoedd i Gymru yn y tymor hir.

 

 

11.0      Costau Deddfwriaeth

 

Mae gan fy mhortffolio ddiddordeb arbennig mewn darparu Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 a Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014. Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sy’n gyfrifol am gyllidebau.

 

Rydym hefyd yn monitro’n agos effaith Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 a Deddf Economi Ddigidol 2017 y DU yn arbennig.

 

Mae elfen Seilwaith Digidol y Ddeddf yn cynnwys dau newid pwysig i ddeddfwriaeth; Cod Cyfathrebu Electronig diwygiedig a chyflwyno pwerau i greu Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol ar gyfer band eang. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos ar y goblygiadau gyda’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).  Mae gwaith i weithredu’r Cod Cyfathrebu Electronig Diwygiedig newydd gan DCMS hefyd yn mynd rhagddo.

 

Ni ragwelir unrhyw oblygiadau cyllidebol ar gyfer y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol na’r Cod Cyfathrebu Electronig diwygiedig.

 

 

12.0      Ystyriaethau trawsbynciol



 12.1 Cydraddoldeb

 

Mae nifer o raglenni Cyflogadwyedd a Sgiliau’n cynnwys gweithio gyda chyflogwyr. Wrth weithio gyda chyflogwyr sy’n cynnig lleoliadau profiad gwaith, rydym yn sicrhau eu bod yn cynnig cydraddoldeb yn eu gweithle ac yn cyfrannu at brif ffrydio ehangach drwy adolygu a monitro eu cynnig lleoliadau profiad gwaith a herio rolau traddodiadol lle mae stereoteipiau rhyw yn dal i fodoli a helpu pobl i gael swyddi a’u cadw mewn meysydd neu ddiwydiannau anhraddodiadol nad ydynt yn cynnwys cynrychiolaeth ddigonol o rywiau penodol. Bydd sylw’n cael ei roi ar y math o hyfforddiant y mae’r cyflogwr yn gofyn amdano ar gyfer unigolion sy’n mynd ar leoliadau profiad gwaith i sicrhau nad oes gwahanu galwedigaethol yn digwydd a bod cyfle am hyfforddiant mewn meysydd anrhaddodiadol, gan ganolbwyntio ar feysydd lle mae yn brinder sgiliau.

 

Sefydliad cenedlaethol yw Chwarae Teg a sefydlwyd i ehangu rôl menywod yn economi Cymru. Mae’n cynnig sylwadau a chyngor arbenigol ar strategaeth a pholisi’r llywodraeth, ac yn darparu cyngor a dadansoddiad sensitif ar faterion rhywedd. Nod Rhaglen Chwarae Teg yw sicrhau cydraddoldeb rhywiol yn y gweithle a chyfle cyfartal i fenywod mewn busnes. Mae’n gweithio gyda menywod a merched i ehangu gorwelion a meithrin hyder a sgiliau; yn gweithio gyda chyflogwyr i greu gweithleoedd modern sy’n llwyddo i ddefnyddio cyfraniad pawb; a chyda dylanwadwyr, addysgwyr a llunwyr penderfyniadau i greu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi ac yn cefnogi menywod a dynion i’r un graddau ac yn dod â manteision i’r ddau ryw. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ein rhaglen Brentisiaethau ac wedi cynnal y cyllid ar gyfer y gweithgarwch hwn er mwyn cyflawni ymrwymiad y maniffesto o ddarparu 100,000 o Brentisiaethau dros dymor y Cynulliad. Mae unrhyw ostyngiad mewn Prentisiaethau di-flaenoriaeth lefel 2 yn debygol o gael effaith anghymesur ar fenywod yn ymuno â’r rhaglenni. Bydd unrhyw ostyngiad yn y llefydd prentisiaeth sydd ar gael yn lleihau cyfleoedd i weithwyr Cymru wella eu lefelau sgiliau a’u gallu i fynnu incwm uwch a gwell safon bywyd o ganlyniad uniongyrchol.

 

Nodwyd bod yna broblem gyda chyflogwyr yn anwybyddu eu gweithwyr hŷn wrth ddatblygu sgiliau ac nad yw pobl hŷn yn gwybod beth yw canlyniadau peidio â chadw eu sgiliau’n gyfredol. Mae hyn, ynghyd â chodi’r oedran pensiwn a’r gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n ymuno â’r farchnad lafur, wedi arwain at nodi gweithwyr hŷn fel ffocws allweddol i bolisi sgiliau. Bu’r Pwyllgor Menter a Busnes yn ymchwilio i’r mater hwn yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad. Mae wedi’i ystyried mewn penderfyniadau cyllideb, gyda £0.100 miliwn wedi’i roi i ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o’r materion hyn ymysg cyflogwyr ac unigolion fel ffordd o liniaru problemau sy’n datblygu. Defnyddiwyd cyllid Gwybodaeth am y Farchnad Lafur o BEL Cyflogadwyedd a Sgiliau i helpu gyda hyn hefyd, gan ddarparu rhagor o dystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi a monitro cynnydd yn y maes hwn.

 

12.2      Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

 

Rwy’n ystyried fy mlaenoriaethau a’m gwariant yng nghyd-destun sut fydd fy mholisïau’n cyfrannu at gyflawni’r saith Nod Cenedlaethol a’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy:

o   Meddwl am yr hirdymor;

o   Mabwysiadu dull gweithredu integredig;

o   Cydweithio ag eraill;

o   Cynnwys pobl a chymunedau sy’n cael eu heffeithio gan eu penderfyniadau;

o   Canolbwyntio ar roi mesurau ataliol ar waith.

 

          Bydd fy mholisïau’n cyfrannu at gyflawni’r saith Nod Cenedlaethol.

 

Er enghraifft, polisi Cyflogadwyedd a Sgiliau:

 

·         Cymru lewyrchus: Cefnogi buddsoddiad mewn swyddi, twf a threchu tlodi

·         Cymru gydnerth: Cynyddu buddsoddiad preifat mewn sgiliau

·         Cymru iachach: Sicrhau’r manteision iechyd drwy swyddi a thwf

·         Cymru sy’n fwy cyfartal: Darparu cynnig cyflogadwyedd pob oedran ymatebol a hyblyg

·         Cymru o gymunedau cydlynus: Cydweithio rhanbarthol cryf drwy Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

·         Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu: Darparu sgiliau a dysgu dwyieithog

·         Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang: Codi perfformiad a sicrhau gwell canlyniadau economaidd

 

Y sail ar gyfer penderfynu ar fy mlaenoriaethau bob amser yw sut y byddant yn gwella ein heconomi, cymdeithas, yr amgylchedd a diwylliant.

12.3      Y Gymraeg

 

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg wrth ddatblygu ein Cynlluniau a chydymffurfio â safonau’r Gymraeg. Mae wedi’i ymgorffori yn ein darpariaeth, er enghraifft mae gwasanaethau Gyrfa Cymru’n cael eu darparu’n ddwyieithog. Bydd economi ffyniannus yn cefnogi ein targed o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd swyddi o ansawdd da a thwf cynaliadwy’n rhoi rheswm i bobl aros neu ddychwelyd i weithio a byw mewn cymunedau lleol lle mae’r iaith yn ffynnu. Mae’r buddsoddiad mewn cysylltedd band eang yn ymyriad allweddol i gefnogi’r uchelgais hon.

 

12.4      Lleihau effaith amddifadedd a thlodi

 

Ceir cydnabyddiaeth eang bod symud pobl i waith yn cael effaith ddramatig ar eu hiechyd a’u gallu i gymryd rhan mewn cymdeithas o ddydd i ddydd. Mae uwchsgilio, yn enwedig gwella sgiliau hanfodol, a chefnogi pobl i gamu ymlaen yn eu gwaith a chyfleoedd cyflogaeth newydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r agenda Trechu Tlodi.

 

Fel Llywodraeth rydym yn sicrhau bod pob agwedd ar bolisi’r Llywodraeth – addysg, iechyd, tai a chymunedau – yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi pobl i swyddi cynaliadwy. 

 

Bydd Cynllun Cyflawni Cyflogadwyedd sy’n berthnasol i holl adrannau Llywodraeth Cymru’n rhoi’r cyfle i sicrhau y gall Cymru’n Gweithio elwa ar raglenni a arweinir gan adrannau eraill a sicrhau eu bod yn gyson â nhw. Rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru yn unol ag agenda’r Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb. Mae’r Cynllun Cyflawni Cyflogadwyedd yn mabwysiadu dull seiliedig ar systemau, gan ystyried yr holl ddulliau sydd gan y llywodraeth i sicrhau newid ym maes cyflogadwyedd. Bydd hwn yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol; bydd yn amlygu meysydd y gwyddom fod angen eu newid, a ble rydym yn gobeithio ei gyrraedd.

 

Nid yw cyflogadwyedd yn ymwneud â swyddi a sgiliau’n unig, mae’n ymwneud â chael pob agwedd ar bolisi’r Llywodraeth – addysg, iechyd, tai a chymunedau – i gydweithio i gefnogi pobl i gael swyddi cynaliadwy. 

 

Rydym yn ystyried ein cyfres gyfredol o raglenni ac yn datblygu Cymru’n Gweithio i sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu nac aneffeithlonrwydd, ond hefyd i sicrhau bod pobl yn gallu cael cymorth mewn modd priodol, eu bod yn cael eu holrhain drwy’r system i ddangos datblygiad a’n bod yn mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau strwythurol eraill i gyflogaeth, fel trafnidiaeth neu ddiffyg darpariaeth gofal plant.

 

Mae swyddogion sy’n drafftio’r Cynllun Cyflawni Cyflogadwyedd yn gweithio’n agos gyda’r rhai sy’n llunio’r Cynllun Cyflawni Economaidd, a’r cynlluniau Iechyd ac Addysg perthnasol, fel bod y rhain i gyd yn gwbl gydgysylltiedig ac yn cynnwys amcanion ategol. Bydd y Cynllun Cyflawni Cyflogadwyedd yn cyflawni’r ymrwymiad Sgiliau a Chyflogadwyedd a amlinellwyd yn y Strategaeth Genedlaethol.

 

Wrth gyhoeddi, byddwn yn dechrau ar ymarfer ymgynghori gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, i sicrhau bod y Cynllun Cyflawni’n cael ei weithredu gyda chefnogaeth a chymeradwyaeth lawn gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae gweithio gyda chyflogwyr, yn cynnwys busnesau cymdeithasol, yn hanfodol i lwyddiant ein strategaeth gyflogadwyedd. Dim ond trwy gysylltu gofynion busnesau i sgiliau’r gweithlu y gallwn symud mwy o bobl i gyflogaeth, a’u helpu i ffynnu mewn gwaith.

 

Wrth i ni symud i gyflawni Cymru’n Gweithio rydym yn profi nifer o ddulliau newydd o fynd i’r afael â’r loteri ‘cymhwysedd’, a darparu cymorth sy’n ein galluogi i fynd i’r afael ag anghenion unigolyn yn hytrach na chanolbwyntio ar eu cymhwysedd am raglen benodol.

 

Rydym yn treialu pecyn cymorth ar gyfer unigolion a busnesau yn Ardal Tasglu’r Cymoedd. Byddwn yn mynd i’r afael â’r bylchau cyfredol yn ein darpariaeth cymorth ar gyfer oedolion sy’n ddi-waith am gyfnod byr, sydd wedi’u tangyflogi a’r rhai sy’n mynd i mewn ac allan o gyflogaeth dros dro.

 

Byddwn yn canolbwyntio ar y rhwystrau i gyflogaeth sy’n wynebu unigolion ac yn cymell eu recriwtio gyda chynnig o gyngor ar yrfaoedd, cymorth hyfforddi cyn cyflogaeth, hyfforddiant mewn swydd a chymhelliant cyflogaeth ar gyfer cyflogwyr sy’n recriwtio.

 

 

 

13.0      Crynodeb

 

Mae’r dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2018-19 yn cael ei chyflwyno i’w hystyried gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

 

 

 

Julie James AC

Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth


Atodiad A

ECONOMI A SEILWAITH – PORTFFOLIO’R GWEINIDOG SGILIAU A GWYDDONIAETH

 

ADNODD

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb

Cyllideb Atodol 2017-18 Mehefin 2017

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2018-19

Newid

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2018-19

Newid

Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd 2019-20

£000au

£000au

£000au

£000au

£000au

£000au

 

Gwyddorau Bywyd

                        2,896

                     2,896

(696 )

2,200

0

2,200

 

Gweithredu:

Sectorau

2,896

2,896

(696 )

2,200

0

2,200

 

Arloesedd Busnes

1,520

1,520

(1,520 )

0

0

0

 

Canolfannau Arloesedd a Chyfleusterau Y&D

2,553

2,553

(2,553 )

0

0

0

 

Cydweithio rhwng y Byd Academaidd a Busnes

1,646

1,646

(787 )

859

(255 )

604

 

Gweithredu:

Arloesedd

5,719

5,719

(4,860 )

859

(255 )

604

 

Gwyddoniaeth

4,795

4,795

(4,022 )

773

(632 )

141

 

Gweithredu:

Gwyddoniaeth

4,795

4,795

(4,022 )

773

(632 )

141

 

Cynhwysiant Digidol

1,250

1,250

0

1,250

0

1,250

 

Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

5,240

5,740

(1,536 )

4,204

500

4,704

 

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

2,027

2,027

0

2,027

0

2,027

 

Gweithredu:

Darparu Seilwaith TGCh

8,517

9,017

(1,536 )

7,481

500

7,981

 

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

1,309

1,309

0

1,309

0

1,309

 

Gweithredu:

Darparu Seilwaith TGCh – Dim Arian parod

1,309

1,309

0

1,309

0

1,309

 

Dysgu Seiliedig ar Waith

126,808

126,308

(7,599 )

118,709

(7,596 )

111,113

 

Gweithredu:

Dysgu Seiliedig ar Waith

126,808

126,308

(7,599 )

118,709

(7,596 )

111,113

 

Sgiliau Marchnata

648

648

0

648

0

648

 

Gweithredu:

Cymorth Cyflawni – Sgiliau

648

648

0

648

0

648

 

Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu

1,061

1,061

0

1,061

0

1,061

 

Gweithredu:

Polisi Sgiliau

1,061

1,061

0

1,061

0

1,061

 

Cyflogadwyedd a Sgiliau

28,858

28,858

0

28,858

0

28,858

 

Gweithredu:

Cyflogaeth a Sgiliau

28,858

28,858

0

28,858

0

28,858

 

Gyrfa Cymru

18,800

18,800

0

18,800

0

18,800

 

Gweithredu:

Dewis Addysgol a Gyrfa

18,800

18,800

0

18,800

0

18,800

 

CYFANSWM

 

199,411

199,411

(18,713 )

180,698

(7,983 )

172,715

 

 

ECONOMI A SEILWAITH – PORTFFOLIO’R GWEINIDOG SGILIAU A GWYDDONIAETH

CYFALAF

Llinell Wariant yn y Gyllideb

Cyllideb Atodol 2017-18 Mehefin 2017

2018-19

2019-20

2020-21


Cyllideb Derfynol 2017-18 Cynlluni-au Cyfalaf

Newid


Cyllideb Ddrafft Cynlluni-au Newydd


Cyllideb Derfynol 2017-18 Cynlluni-au Cyfalaf

Newid


Cyllideb Ddrafft Cynlluniau Newydd


Cyllideb Derfynol 2017-18 Cynlluni-au Cyfalaf

Newid

Cyllideb Ddrafft Cynlluni-au Newydd

£000au

£000au

£000au

£000au

£000au

£000au

£000au

£000au

£000au

£000au

Gwyddorau Bywyd

9,711

3,605

(1,515)

2,090

2,000

(1,202)

798

1,000

(199)

801

Gweithredu:

Sectorau

9,711

3,605

(1,515)

2,090

2,000

(1,202)

798

1,000

(199)

801

Arloesedd Busnes

-

-

1,254

1,254

-

1,254

1,254

-

1,254

1,254

Canolfannau Arloesedd a Chyfleusterau Y&D

-

-

945

945

-

1,200

1,200

-

1,200

1,200

Cydweithio rhwng y Byd Academaidd a Busnes

11,739

62

1,550

1,612

62

1,550

1,612

62

1,550

1,612

Gweithredu:

Arloesedd

11,739

62

3,749

3,811

62

4,004

4,066

62

4,004

4,066

Gwyddoniaeth

871

539

4,022

4,561

-

4,654

4,654

-

4,874

4,874

Gweithredu:

Gwyddoniaeth

871

539

4,022

4,561

-

4,654

4,654

-

4,874

4,874

Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

-

-

5,000

5,000

-

0

-

-

0

-

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

20,550

7,500

0

7,500

1,500

0

1,500

19,500

0

19,500

Gweithredu:

Darparu Seilwaith TGCh

20,550

7,500

5,000

12,500

1,500

0

1,500

19,500

0

19,500

CYFANSWM

 

42,871

11,706

11,256

22,962

3,562

7,456

11,018

20,562

8,679

29,241